Rhoi cadwyn gyflenwi Gwyndod ar waith i gyflawni Adweithyddion Modiwlaidd Bach cyntaf y DU
Daeth mwy na 400 o gyflenwyr o bob cwr ogledd Cymru, y DU a'r diwydiant niwclear rhyngwladol ynghyd ar Ynys Môn wrth i Rolls-Royce SMR a Great British Energy – Nuclear (GBE-N) fwrw ymlaen â chynlluniau i gyflawni adweithyddion modiwlaidd bach cyntaf y DU yn Gwyndod.
Daeth y gynhadledd 'Cyflawni Gyda'n Gilydd', a gynhaliwyd ar Gampws Llangefni Coleg Menai, â busnesau wyneb yn wyneb â thîm cyflawni ar y cyd Gwyndod. Nododd gam pwysig o ran paratoi'r gadwyn gyflenwi a datblygu'r gallu diwydiannol sydd ei angen i gyflawni'r prosiect blaenllaw hwn.
Dros ddau ddiwrnod, clywodd y cynrychiolwyr am y cyfleoedd yn sgil y rhaglen, y galluoedd a'r safonau angenrheidiol a sut y gall busnesau baratoi i ddod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi. Cafodd Busnesau Bach a Chanolig hefyd ganllawiau wedi'u teilwra ar sut i ymgysylltu â chadwyn gyflenwi ehangach prosiect Gwyndod.
Bu Rolls-Royce SMR a GBE-N yn traddodi cyflwyniadau ac yn rhannu canllawiau ymarferol i helpu busnesau o bob maint i ymgysylltu â'r rhaglen. Clywodd y cyflenwyr am y galluoedd sydd eu hangen a sut i weithio gyda phartneriaid cyflawni'r rhaglen, gan gynnwys drwy sesiynau cwrdd â'r prynwr pwrpasol.
Mae gan Rolls-Royce SMR a GBE-N nod i gyflawni 70% o'r cynnwys ar gyfer prosiect Gwyndod drwy gwmnïau sydd wedi'u lleoli yn y DU - a fydd yn creu a chynnal miloedd o swyddi yn lleol a ledled y DU gyfan. Mae disgwyl i dros 300 o brentisiaid gael eu cefnogi'n ystod y cam adeiladu, ynghyd ag uchelgais i bobl leol fanteisio ar y cyfleoedd lle bynnag bo modd.
Dywedodd y Gweinidog dros Ynni, Michael Shanks AS: "Bydd ein hoes aur ym maes niwclear yn creu miloedd o swyddi medrus, yn denu biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, ac yn helpu i gwtogi biliau dros amser.
"Bydd adweithyddion modiwlaidd bach Gwyndod yn creu cyfleoedd newydd i genhedlaeth o bobl ifanc ar hyd a lled gogledd Cymru, gan gefnogi twf drwy gadwyn gyflenwi'r DU, a sicrhau pŵer niwclear glân, wedi'i gynhyrchu'n lleol i Brydain gyfan."
Dywedodd Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Llywodraeth Cymru, Adam Price: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fanteisio i'r eithaf ar fuddion economaidd, cyflogaeth a chadwyn gyflenwi Gwyndod ar gyfer Cymru. Ein huchelgais yw nid yn unig cynnal y prosiect, ond sicrhau gwerth parhaol drwy sgiliau medrus, cyfleoedd i fusnesau Cymru a chadwyni cyflenwi lleol cryfach.
"Mae gan Gymru weithlu hynod fedrus a phrofiadol, yn ogystal ag arbenigedd sy'n cwmpasu rolau proffesiynol, technegol a chrefft. Mae hyn yn darparu sylfaen gref i fusnesau a gweithwyr yng Nghymru chwarae rhan sylweddol yn cyflawni'r hyn sy'n nodi pennod newydd i'r diwydiant niwclear ym Mhrydain wrth i'r Adweithyddion Modiwlaidd Bach cyntaf gael eu hadeiladu.”
Ychwanegodd Chris Cholerton, Prif Weithredwr Rolls-Royce SMR: "Y prosiect Gwyndod yw ein cyfle i drawsnewid y ffordd y caiff pŵer niwclear ei ddarparu. Bydd ein dull ailadroddadwy o adeiladu oddi ar y safle yn darparu mwy o sicrwydd ac yn lleihau risg cyflawni, wrth greu gallu diwydiannol cenedlaethol a all gefnogi fflyd Adweithyddion Modiwlaidd Bach yn y DU a'r cyfle allforio enfawr, gan ddechrau gyda'r rhai sydd eisoes wedi'u sicrhau yn Tsiecia a Sweden.
"Mae'r digwyddiad hwn wedi dod â'r sefydliadau a'r arbenigedd y tu ôl i'r uchelgais hwnnw ynghyd gyda phwyslais ar Gyflawni Gyda'n Gilydd. Rydym bellach yn ysgogi cadwyn gyflenwi Gwyndod ac yn meithrin partneriaethau hirhoedlog a fydd yn rhoi ein cynlluniau ar waith.”
Dywedodd Simon Roddy, Prif Weithredwr Great British Energy – Nuclear: "Wrth i ni barhau i wneud cynnydd sylweddol gyda phrosiect Gwyndod, roedd yn galonogol gweld cymaint o ddiddordeb a chyffro gan y gadwyn gyflenwi i ddysgu rhagor ynghylch sut y gallant gymryd rhan, a hyd yn oed yn well gallu cynnal digwyddiad o'r fath ar Ynys Môn ei hun yng Ngholeg Menai.
"Roedd presenoldeb Gweinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar hyd dau ddiwrnod ein digwyddiad yn pwysleisio'n berffaith pa mor ddifrïol ydyn ni ynghylch cyflawni'r prosiect gyda'n gilydd; rydym wirioneddol i gyd yn un "Tîm Gwyndod!”
Gyda'i gilydd, mae gan Rolls-Royce SMR a GBE-N nod cyffredin i Gwyndod ddarparu pŵer glân, fforddiadwy i genedlaethau i ddod, wrth drawsnewid diwydiant y DU a chreu cyfleoedd parhaol i gymunedau yng ngogledd Cymru a ledled y DU.