Rhaglen Graddedigion Rolls-Royce SMR i ddatblygu arbenigwyr diogelwch niwclear y dyfodol


Mae Rolls-Royce SMR wedi lansio ei Rhaglen Graddedigion Diogelwch a Materion Rheoleiddiol, cam sylweddol i ddechrau datblygu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr i helpu Rolls-Royce SMR i drawsnewid y ffordd y caiff prosiectau niwclear eu cyflawni.

Bydd y rhaglen newydd yn helpu graddedigion i ddatblugu y sgiliau a’r hyder i lunio dyluniad, gweithrediad a pherfformiad diogel Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR) Rolls-Royce – technoleg niwclear sifil ddomestig gyntaf y DU ers mwy na chenhedlaeth.

Dywedodd Mark Salisbury, Pennaeth Materion Rheoleiddiol Rolls-Royce SMR: “Mae diogelwch, diogeledd, mesurau diogelu a gwarchod yr amgylchedd yn sail i bopeth a wnawn yn Rolls-Royce SMR. Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i raddedigion dawnus weithio ochr yn ochr efo arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant ym maes niwclear, diogelwch a rheoleiddio, a chyfrannu at gyflawni ein technoleg SMR yn ddiogel.”

Mae’r rhaglen yn agored i raddedigion mewn peirianneg, ffiseg, mathemateg, peirianneg systemau, risg, diogelwch, dibynadwyedd a disgyblaethau STEM eraill. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu ei gyrfa mewn un o bedwar maes arbenigol:

  • Amgylchedd, Diogelwch, Sicrwydd a Mesurau Diogelu

    Sicrhau bod systemau diogelwch peirianyddol a mesurau gwarchod yr amgylchedd yn gweithredu fel y cynlluniwyd, tra’n cefnogi cynaliadwyedd, cydymffurfiaeth a pharodrwydd ar gyfer argyfyngau.

  • Peryglon Mewnol

    Dadansoddi a lliniaru risgiau sy’n deillio o fewn gweithrediadau – megis tân, llifogydd neu fethiant offer – rhan hanfodol o greu systemau niwclear gwydn.

  • Peryglon Allanol

    Asesu risgiau sy’n codi o ddigwyddiadau naturiol ac amgylcheddol, gan gynnwys tywydd eithafol, gweithgarwch seismig a ffactorau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd, er mwyn cefnogigwydnwch gweithredol hirdymor.

  • Asesiad Diogelwch Tebygolrwyddol

    Defnyddio modelu uwch a dadansoddi risg i gefnogi achosion diogelwch, cyflwyniadau rheoleiddiol a dealltwriaeth fanwl o berfformiad systemau.

Cyhoeddodd Great British Energy – Nuclear (GBE-N) yn ddiweddar fod Wylfa ar Ynys Môn wedi’i ddewis fel safle Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR) cyntaf y DU, gan ddarparu hyd at 1.5 GW o drydan carbon isel. Bydd hyn yn cefnogi nodau sero net y DU ac yn creu budd economaidd sylweddol – gan gynnwys 8,000 o swyddi Prydeinig hirdymor, gyda llawer mwy o gyfleoedd cyffrous i ddod yng Ngogledd Cymru ac ar draws y DU.

Mae Rolls-Royce SMR hefyd wedi’i ddewis fel y cynigydd dewisol yng nghystadleuaeth SMR Great British Energy – Nuclear (GBE-N), ac gan y cwmni cyfleustodau Ewropeaidd ČEZ i adeiladu hyd at dri gigawat o ynni niwclear newydd yn y Weriniaeth Tsiec.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Raddedigion Diogelwch a Materion Rheoleiddiol.