Prentisiaid yn dechrau ar eu siwrnai i ategu dyfodol niwclear Gwyndod
Mae’r garfan gyntaf o brentisiaid Rolls-Royce SMR ar Ynys Môn, a leolir gerllaw gorsaf arfaethedig Gwyndod, wedi dechrau ar eu siwrnai niwclear yn swyddogol, gan nodi carreg filltir bwysig o ran meithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r rhaglen Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR).
Mae deg o brentisiaid lleol wedi ymuno â thîm Diogelwch a Materion Rheoleiddio Rolls-Royce SMR ar adeg dyngedfennol yn hanes y sefydliad wrth iddo ddechrau adeiladu tair uned ar safle Gwyndod, dan gontract a lofnodwyd gyda Great British Energy – Nuclear yn gynharach eleni.
Lleolir y prentisiaid yng Ngholeg Menai, Llangefni, a byddant yn elwa ar addysgu arbenigol a chyfleusterau gwych Grŵp Llandrillo Menai. Byddant yn ategu trefniadau cydymffurfio a safonau rheoleiddio a diogelwch ledled y rhaglen SMR, yn ogystal â chwarae rôl bwysig o ran trawsnewid y modd y caiff prosiectau niwclear eu cyflawni trwy gyfrwng technoleg niwclear sicr ac i’w ymddiried ynddo, modiwlareiddio a dull a ‘adeiladwyd mewn ffatri’.
Tommy Evans, Peiriannydd Peryglon Mewnol Rolls-Royce SMR a chyn-brentis prosiect Wylfa Newydd Horizon, sy’n arwain rhai o’r prentisiaid newydd:
“A minnau wedi dechrau ar fy siwrnai fy hun fel prentis yn yr ardal, rydw i’n gwybod o’r gorau pa mor bwysig yw cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer y rhanbarth hwn,” meddai. “Mae datblygu doniau yma ar Ynys Môn yn cynnig llwybr uniongyrchol i’r unigolion uchelgeisiol hyn at yrfaoedd hynod fedrus, gydol oes. Trwy gael profiad ymarferol yn ymwneud â diogelwch niwclear, rheoli risgiau a chymeradwyaeth reoleiddiol, byddant yn ategu ein cynlluniau ynni glân ehangach yn uniongyrchol, gan sicrhau ar yr un pryd bod Gogledd Cymru wrth galon y cyfnod niwclear newydd.”
Caiff y prentisiaid eu hategu gan gymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg. Byddant yn astudio’n llawn-amser yn Llangefni am 12 mis cyn cymhwyso’r pethau a ddysgwyd trwy brofiad ymarferol ar draws y rhaglen SMR.
Medd Aled Jones-Griffiths, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai: “Mae croesawu’r garfan gyntaf hon o brentisiaid Rolls-Royce SMR i Goleg Menai yn garreg filltir gyffrous i Grŵp Llandrillo Menai ac yn arwydd clir o barodrwydd y Grŵp i sicrhau y bydd gweithlu medrus a chymwysedig ar gael yn lleol i ddiwallu’r galw ac i gynorthwyo i ddatblygu Gwyndod yn llwyddiannus.
“Trwy gyfuno addysg dechnegol o’r radd flaenaf yn Llangefni gyda phrofiad ymarferol ar y rhaglen SMR, rydym yn cynnig llwybr uniongyrchol i bobl ifanc leol at yrfaoedd hynod fedrus ar garreg eu drws. Mae helpu ein cymunedau lleol i ennill y profiad sy’n angenrheidiol i ategu prosiectau mawr fel Gwyndod wrth galon a chraidd ein dull, ac edrychwn ymlaen at gynorthwyo’r prentisiaid hyn wrth iddynt ddechrau ar eu siwrnai.”
Ychwanegodd Simon Roddy, Prif Weithredwr Great British Energy – Nuclear: “Dyma hanfod Gwyndod – creu cyfleoedd gwirioneddol i bobl leol tra’n meithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol i wireddu dyfodol niwclear newydd i Brydain. Rydw i wrth fy modd yn gweld y garfan gyntaf hon o brentisiaid yn dechrau ar eu prentisiaethau mor fuan ar ôl i’n prosiect gael ei gyhoeddi. Mi fyddan nhw, a’r rhai a fydd yn eu dilyn, yn llysgenhadon gwych i Gwyndod – prawf y bydd trigolion yr ardal yn elwa ar fanteision parhaus y rhaglen am genedlaethau i ddod.”
Ymunodd Cameron ar ôl cwblhau ei flwyddyn gyntaf yn astudio Safon Uwch, ac mae’n dilyn yn ôl troed y teulu gan fod ei dad eisoes yn gweithio ar safle Wylfa. Meddai: “Mae’n gyfle gwirioneddol wych ac rydw i’n llawn cyffro o weld y pethau a ddaw i ran yr ynys yn sgil y prosiect. Gwych o beth yw gallu dilyn yn ôl troed fy Nhad a bod yn rhan o’r cyfle anhygoel hwn.”
Mae Katie, a arferai fod yn Rheolwr Hamdden yn Llanrwst, o’r farn bod y cynllun yn ddechrau newydd. “Dydyn ni ddim yn cael llawer o gyfleoedd o’r fath yn yr ardal hon, felly mae’n wych eu bod wedi dod â rhywbeth newydd i’r ynys a’u bod wedi rhoi llu o gyfleoedd i bobl ifanc leol. Dyma drywydd newydd i mi ac mi fydd yn siwrnai hynod ddiddorol a chyffrous.”
Yn ôl Tara, sydd wedi camu yn ei blaen o gwrs Lefel 3 mewn Adeiladu yng Ngholeg Menai: “Cefais flas mawr ar iechyd a diogelwch yn fy nghwrs blaenorol ac roeddwn i eisiau cymhwyso’r wybodaeth at yrfa yn y dyfodol. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio yn y diwydiant niwclear yma, gan ei fod yn lleol i mi.”
Soniodd Euros, sydd hefyd wedi ymuno o Goleg Menai, am fynediad at y diwydiant. “Roedd yn gyfle i weithio i gwmni mor fawr, cael cyflog tra’n dysgu, ennill sgiliau newydd ac ymuno â’r diwydiant. Mae’n lle gwirioneddol wych i ddechrau, yma ar garreg fy nrws.”
Ychwanegodd Gwenno, sy’n ymuno’n syth ar ôl gorffen astudio Safon Uwch: “Cefais fy nenu ato oherwydd y cynllun newydd ar gyfer Wylfa. Rydw i’n edrych ymlaen at ennill sgiliau newydd a dechrau ar y siwrnai hon sy’n rhoi Gogledd Cymru wrth galon a chraidd y pontio at ynni glân.”
Mae’r garfan newydd yn golygu bod 51 o brentisiaid Rolls-Royce SMR yn cefnogi’r prosiect ledled y DU. Dros oes y prosiect, disgwylir y bydd mwy na 300 o brentisiaid yn cael eu cyflogi, gan helpu i feithrin y sgiliau sy’n angenrheidiol i esgor ar y genhedlaeth nesaf o seilwaith ynni niwclear yn y DU.
Mae’r prentisiaid yn dechrau ar eu siwrnai yn ystod cyfnod o dwf cyflym yn hanes Rolls-Royce SMR. Yn dilyn y cytundeb gyda Great British Energy – Nuclear, mae’r busnes wedi llofnodi cytundeb gwaith cynnar gyda’r cwmni cyfleustodau ČEZ o’r Weriniaeth Tsiec, ar gyfer gwaith yn Temelín; ac ym mis Mehefin, dewiswyd Rolls-Royce SMR gan Videberg Kraft i adeiladu Adweithyddion Modiwlar Bach ar benrhyn Värö ar arfordir gorllewinol Sweden.