Prentisiaid Lleol i Helpu Pweru Dyfodol Ynni Niwclear yn Wylf


Mae Rolls-Royce SMR wedi dechrau’r broses o recriwtio ei brentisiaid cyntaf i weithio ger Wylfa ar Ynys Môn, Gogledd Cymru – safle Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRs) cyntaf Ewrop.

Bydd tua 10 o brentisiaid yn ymuno â thîm Diogelwch a Materion Rheoleiddiol y cwmni ar gyfnod hynod gyffrous i Rolls-Royce SMR a diwydiant niwclear y Deyrnas Unedig, wrth i’r gwaith ddechrau ar gyflwyno’r tair uned gyntaf yn Wylfa, o dan gontract gyda Great British Energy – Nuclear.

Mae pob prosiect niwclear llwyddiannus yn dibynnu ar dîm cryf i sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau uchaf o ran diogelwch a materion rheoleiddiol. Bydd y prentisiaid sy’n cael eu recriwtio yn chwarae rhan bwysig wrth drawsnewid y ffordd y mae prosiectau niwclear yn cael eu cyflawni, drwy ddefnyddio technoleg niwclear brofedig, modiwleiddio, a dull gweithgynhyrchu ‘ffatri gynhyrchiedig’.

Dywedodd Mark Salisbury, Pennaeth Materion Rheoleiddiol Rolls-Royce SMR: “Mae diogelwch, diogeledd, mesurau diogelu a gwarchod yr amgylchedd yn sail i bopeth a wnawn yn Rolls-Royce SMR. Mae gyrfa yn y sector niwclear drwy brentisiaeth mewn Diogelwch a Materion Rheoleiddiol yn gyfle i weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr blaenllaw ym maes niwclear, diogelwch a rheoleiddio, a chyfrannu yn ddiogel at gyflwyno ein technoleg SMR.”

Bydd y prentisiaethau, sydd wedi’u lleoli yng Coleg Menai yn Llangefni, yn cynnwys cymhwyster Peirianneg Lefel 3 ynghyd â phrofiad ymarferol a hyfforddiant mewnol.

Yn gynharach eleni, llofnododd Rolls-Royce SMR gontract gyda Great British Energy – Nuclear i ddechrau gweithgareddau dylunio a chyflawni safle-benodol ar gyfer adweithyddion modiwlar bach cyntaf y DU. Cytunwyd hefyd ar Gontract Gwaith Cynnar gyda’r cwmni ynni Tsiec ČEZ i fwrw ymlaen â thrwyddedu, caniatáu a dylunio safle-benodol ar gyfer defnyddio’r dechnoleg ar safle Temelín Nuclear Power Station, gan atgyfnerthu safle Rolls-Royce SMR fel SMR blaenllaw Ewrop.

Cliciwch yma i gael fwy o wybodaeth ac i wneud cais am Brentisiaeth Diogelwch a Materion Rheoleiddiol.