Mae Rolls-Royce SMR wedi llwyddo i gwblhau yr ail gam o’r Asesiad Dyluniad Generig (GDA) gan reoleiddwyr annibynnol diwydiant niwclear y DU – y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR), Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru – a bydd yn symud ar unwaith i'r trydydd cam sef y cam olaf.
Mae'r broses Asesiad Dyluniad Generig (GDA) yn asesu dyluniadau gorsafoedd pŵer niwclear newydd i'w defnyddio yn y DU, gan ddangos y gellir eu hadeiladu, eu gweithredu a'u datgomisiynu yn unol â'r safonau uchaf o ddiogelwch, diogeledd, mesurau diogelu a diogelu’r amgylchedd.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau sefyllfa Rolls-Royce SMR o flaen unrhyw SMR arall yn Ewrop. Bydd Rolls-Royce SMR yn manteisio ymhellach ar y fantais sylweddol hwn drwy symud yn syth i gam tri – y cam 'asesiad manwl'.
Dywedodd Helena Perry, Cyfarwyddwr Diogelwch a Materion Rheoleiddio SMR Rolls- Royce: "Cwblhau GDA Cam 2 yw'r garreg filltir bwysicaf hyd yma wrth hyrwyddo defnyddio SMRs Rolls-Royce yn y DU
"Rydym wedi adeiladu momentwm gwych, a bydd y tîm yn symud yn syth i gam olaf yr asesiad annibynnol trylwyr - gan ein gosod yn ddelfrydol i gefnogi Llywodraeth y DU i wireddu ei huchelgais o gyflawni 24GW o niwclear newydd erbyn 2050."
Rolls-Royce SMR fydd yr orsaf bŵer niwclear newydd gyntaf i gael ei dylunio a'i hadeiladu yn y DU ers dros genhedlaeth ac mae'n cynnig dull hollol wahanol, gan ddarparu pŵer niwclear newydd ar sail technoleg brofedig. Fydd pob gorsaf bŵer niwclear yn cael eu hadeiladu mewn ffatri ac yn darparu digon o drydan carbon isel fforddiadwy i bweru miliwn o gartrefi am dros 60 mlynedd.
Ar hyn o bryd mae Rolls-Royce SMR yn cymryd rhan yn y broses ddethol technoleg SMR Niwclear Prydain Fawr. Bydd canlyniad llwyddiannus o'r broses blwyddyn yma yn creu a chynnal miloedd o swyddi medrus, hir dymor a cyraeddiadau i agor drysau allforio eang.