Mae Rolls-Royce SMR wedi gwarantu sicrwydd cytundebol i adeiladu fflyd SMR gyntaf Ewrop
Mae Rolls-Royce SMR a Great British Energy - Nuclear (GBE-N) wedi llofnodi contract sy’n galluogi gwaith i ddechrau ar unwaith ar gyflawni tri Adweithyddion Modiwlar Bach (SMR) Rolls-Royce yn Wylfa, ar arfordir Ynys Môn yng Ngogledd Cymru.
Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, y bydd Wylfa yn cynnal SMR cyntaf y DU. Mae’r cytundeb heddiw yn caniatáu i waith ddechrau ar y safle, drwy gontract cadarn sy’n galluogi Rolls-Royce SMR i ddatblygu ei ddyluniad sy’n benodol i’r safle, archebu cydrannau hanfodol o’r gadwyn gyflenwi, ac darparu’r sicrwydd sydd ei angen i gynyddu ei raglen recriwtio er mwyn cyflawni’r gwaith hwn i ddarparu’r tri uned gychwynnol yn llwyddiannus.
Dywedodd Chris Cholerton, Prif Weithredwr Rolls-Royce SMR: “Mae’r contract hwn yn datgloi danfoniad ein tair uned gyntaf yn Wylfa ac yn enghraifft diriaethol o ‘oes aur’ y Llywodraeth ar gyfer niwclear newydd yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus gyda thechnoleg Brydeinig."
“Mae hyn yn dod â sicrwydd i raglen SMR y DU ac yn gwahaniaethu ein busnes fel yr unig gwmni SMR gyda sawl ymrwymiad yn Ewrop - tair uned gychwynnol yn Wylfa a hyd at chwe uned yn Tsiecia."
“Rydym yn trawsnewid y ffordd y caiff prosiectau niwclear eu cyflawni, er mwyn darparu mwy o sicrwydd o ran costau ac amserlenni drwy ddull safonol, wedi’i adeiladu mewn ffatri. Mae’r prosiect hwn yn bwysig i ddiogelwch ynni’r DU a bydd yn rhoi hwb i’n busnes a chadwyn gyflenwi’r DU.”
Bydd Rolls-Royce SMR a’i bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi yn creu 3,000 swyddi lleol o amgylch safle y Wylfa a 5,000 o swyddi ychwanegol yn genedlaethol - gan roi’r DU ar flaen y gad yn y cyfle trawsnewidiol hwn.
Dywedodd Simon Roddy, Prif Weithredwr Great British Energy - Nuclear, “Mae’r cytundeb hwn yn cynrychioli carreg filltir arwyddocaol i’r diwydiant niwclear. Trwy gydweithio â Rolls-Royce SMR, rydym yn sicrhau buddsoddiad hirdymor o bwys yn y gadwyn gyflenwi ddiwydiannol yn y DU.
Mae meithrin sgiliau, hyrwyddo arloesedd, a chryfhau gallu diwydiannol y DU yn ganolog i’r bartneriaeth hon, a bydd yn sicrhau bod y DU mewn sefyllfa gadarn i gyflawni’r genhedlaeth nesaf o seilwaith niwclear.”
Fel y dechnoleg a ddewiswyd drwy broses gaffael GBE-N, roedd Rolls-Royce SMR yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar delerau masnachol a fydd yn cael ei weinyddu gan y Gronfa Gyfoeth Genedlaethol. Roedd y cais hwnnw’n llwyddiannus, gyda chyfleuster o hyd at £599M ar gael i gefnogi cwblhau dyluniad cyffredinol Rolls-Royce SMR.
Dywedodd Prif Weithredwr, National Wealth Fund, Oliver Holbourn, “Mae cyhoeddiad heddiw yn nodi carreg filltir bwysig yn natblygiad ein diwydiant niwclear. Bydd datblygu technoleg Rolls-Royce SMR yma yn y DU yn arwain at greu miloedd o swyddi ac yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer system ynni sy’n fwy fforddiadwy, yn lanach ac yn fwy diogel.
Dyma’n union yw diben sefydlu’r National Wealth Fund, sef cefnogi prosiectau a thechnolegau addawol o fewn y DU a fydd yn cyflawni effeithiau trawsnewidiol sylweddol.”
Mae Rolls-Royce SMR yn trawsnewid y ffordd y caiff prosiectau niwclear eu cyflawni gan ddefnyddio technoleg niwclear brofedig, modiwleiddio a dull “adeiladu mewn ffatri” - gan lleihau oediadau, effeithiau ar bobl leol a’r amgylchedd. Bydd pob gorsaf bŵer Rolls-Royce SMR yn cynhyrchu digon o drydan sefydlog, carbon isel i bweru miliwn o gartrefi am fwy na 60+ mlynedd.