Cyfnod cofrestru wedi agor i fynychu cynhadledd ar y cyd gyntaf Rolls-Royce SMR a Great British Energy – Nuclear ar gyfer y gadwyn gyflenwi


‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ yw thema’r digwyddiad ar y cyd cyntaf lle bydd cyflenwyr yn dysgu sut allant ddod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi i ddarparu Adweithyddion Modiwlar Bach (SMRs) ar Ynys Môn a gweddill y byd.

Bydd y digwyddiad arwyddocaol hwn, sy'n cael ei gynnal ar 22-23 Hydref ar Gampws Coleg Menai yn Llangefni, yn dwyn ynghyd y gadwyn gyflenwi leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i glywed gan aelodau uwch o dimau Rolls-Royce SMR a Great British Energy - Nuclear (GBE-N) sy’n cyflawni prosiect Gwyndod i adeiladu'r SMRs cyntaf yn y DU ar Ynys Môn.

Yn gwmni i Rolls-Royce SMR a GBE-N fydd eu partneriaid cyflawni a nifer o brif gyflenwyr haen 1, gan roi cyfle i gynrychiolwyr gwrdd â’r bobl sy’n arwain y rhaglen, deall yr hyn a ddisgwylir gan y gadwyn gyflenwi, a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.

Dywedodd Ruth Todd, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Gadwyn Gyflenwi yn Rolls-Royce SMR: “Mae cadwyn gyflenwi gref ac effeithlon yn allweddol i’n llwyddiant – o bartneriaid arwyddocaol haen 1 i fusnesau lleol yma yng Ngogledd Cymru.

“Bydd y digwyddiad arwyddocaol ‘Cyflawni Gyda’n Gilydd’ yn helpu cyflenwyr ddeall maint ein rhaglen, y safonau sy’n ofynnol a’r gefnogaeth sydd ar gael – fel y gallant weld sut fyddant yn cyfrannu at genhedlaeth newydd o ynni niwclear, gan greu gwerth cymdeithasol parhaol drwy sgiliau, swyddi a buddsoddiad.”

Ychwanegodd Andrew Stephenson, Prif Swyddog Masnachol GBE-N: “Nid dim ond amlinellu maint y cyfle sydd i ddod yw nod Cyflawni Gyda’n Gilydd – mae’n ymwneud â sicrhau bod cyflenwyr o bob maint yn deall sut allant fod yn rhan o’r prosiect.

“Drwy weithio’n agos gyda’n partner Rolls-Royce SMR, cyflenwyr arwyddocaol a busnesau lleol, rydym am greu cadwyn gyflenwi wydn a chystadleuol sy’n cefnogi prosiect Gwyndod ac yn creu gwerth economaidd hirdymor i Ynys Môn, Gogledd Cymru a’r DU gyfan.”

Bydd Rolls-Royce SMR yn arwain diwrnod cyntaf y gynhadledd, a fydd yn canolbwyntio ar gyflenwyr cenedlaethol a rhyngwladol, a GBE-N fydd yn arwain yr ail ddiwrnod gan ganolbwyntio ar gyfleoedd i gyflenwyr lleol a mentrau bach a chanolig – a’u helpu i ddeall sut i fod yn rhan o brosiect Gwyndod a chefnogi ei uchelgais i sicrhau buddion cymdeithasol-economaidd lleol hirdymor.

I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu cynhadledd Cyflawni Gyda’n Gilydd Rolls-Royce SMR a GBE-N, cliciwch yma. Bydd y ffenestr gofrestru ar agor tan 25 Medi 2026.