Cadarnhau mai Wylfa fydd safle cyntaf Adweithyddion Modiwlaidd Bach Rolls-Royce yn y Deyrnas Unedig


Mae Great British Energy - Nuclear (GBE-N) wedi cadarnhau y bydd Wylfa, ar arfordir Ynys Môn, Gogledd Cymru, yn safle i dri o Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMRs) Rolls-Royce.

Mae Wylfa yn safle delfrydol ac iddo hanes hir a balch o gynhyrchu pŵer niwclear. Mae gan Ynys Môn weithlu medrus a chymuned frwd. Datblygu perthynas ddofn a chydweithredol gyda’r cymunedau cyfagos fydd y flaenoriaeth gyntaf i Rolls-Royce SMR a Great British Energy - Nuclear wrth iddo weithio i dosbarthu allan ei dechnoleg mewn ffordd sy’n gadael gwaddol parhaus a chadarnhaol.

Dywedodd Chris Cholerton, Prif Weithredwr Rolls-Royce SMR: “Mae hi’n anrhydedd cael y cyfle hwn i gychwyn ar ein rhaglen o adweithyddion yn y Deyrnas Unedig gyda’r tair uned gyntaf yn safle Wylfa. Cyhoeddiad heddiw yw’r cam cyntaf mewn ymrwymiad 100 mlynedd i ynni glân, i arloesedd ac i bartneriaeth gymunedol yn Wylfa.

Mae hwn yn gyfle gwych, nid yn unig i Ogledd Cymru ond i’r wlad drwyddi draw, wrth i ni greu cadwyn gyflenwi a fydd yn para ac yn golygu ein bod yn gallu rhoi ein hadweithyddion ar waith yn y Deyrnas Unedig, a rhaglen allforio fawr a fydd yn dechrau yn Tsiecia”

“Byddwn yn darparu pŵer niwclear mewn ffordd wahanol iawn drwy ddefnyddio modiwleiddio a gwneud llawer iawn o’r gwaith adeiladu mewn ffatrïoedd, gan leihau effaith darparu seilwaith ar bobl leol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned leol i greu swyddi a thwf.

Ym mis Mehefin eleni roedd GBE-N wedi dewis Rolls-Royce SMR fel y cynigydd dewisol i adeiladu cenhedlaeth nesaf y Deyrnas Unedig o orsafoedd pŵer niwclear. Bydd ein rhaglen yn Wylfa yn cefnogi cyfartaledd o bron i 8,000 ar draws DU swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda, bob blwyddyn yn ystod y rhaglen adeiladu.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros ynni, diogelwch a sero net, Ed Miliband: “Mae y buddsoddiad nodedig hwn yn profi bod Prydain yn dal i gallu adeiladu prosiectau mawr fydd yn sefyll prawf amser.”

“Bydd cenhedlaeth o bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru yn elwa o'r swyddi da. Bydd cartrefi ledled Prydain yn cael pŵer glân, a byddwn yn cymryd cam mawr ymlaen wrth gyflawni ein huchelgais i greu rhwydwaith o adweithyddion modiwlaidd bach yn y DU.”

“Dyma genhadaeth ynni glân y llywodraeth mewn gweithred - yn gyrru i gael ynni, sofraniaeth a digonedd i adennill rheolaeth dros ein hynni.”

Mae Rolls-Royce SMR yn dilyn dull cwbl wahanol o ddefnyddio technoleg niwclear sydd wedi cael ei phrofi, gyda phob gorsaf ynni niwclear a fydd wedi cael ei hadeiladu mewn ffatri yn cynhyrchu digon o drydan carbon isel ar gyfer miliwn o gartrefi am 60+ mlynedd.

 

ENDS

 

Dan Gould,

Head of Communications, Rolls-Royce SMR

M +44 (0) 7717 720809

[email protected]

 

Notes to Editors:

The Rolls-Royce SMR is the UK’s first domestic nuclear technology in more than 20 years - providing a British solution to a global energy dilemma. Each small modular reactor will produce enough stable, affordable, emission-free energy to power a million homes for at least 60 years.

Rolls-Royce SMR welcomes comments and questions about the Rolls-Royce SMR design. This feedback will be incorporated into the GDA process and may be published anonymously on the Rolls-Royce SMR GDA website and used during dialogue with the regulators.

Small Modular Reactors | Flickr

https://www.youtube.com/channel/UCfheAOfFjwtNo46z15CyxAQ