Press Room


Dyfodol pŵer niwclear

27th October 2017

Mae pŵer niwclear yn newid

Mae adeiladu gorsafoedd pŵer niwclear yn gostus, cymhleth ac yn cymryd amser.

Mae ein Hadweithydd Modiwlar Bach y DU yn ddewis amgen cost isel ar gyfer marchnad fyd-eang. Gyda dyluniad modiwlar a adeiladir mewn ffatri, gall wella sicrwydd cyflawni, lleihau cymhlethdod, gwella diogelwch.

Lleoliad

  • Ar hyn o bryd mae gorsafoedd pŵer niwclear yn safleoedd mawr a all yn nodweddiadol ymestyn dros arwynebedd o 400,000m2.

  • Mae hyn oherwydd yn draddodiadol unwaith y bydd cwmni wedi treulio'r amser a gwario ar sicrhau safle priodol, mae hi'n fwy cost effeithiol i adeiladu cymaint o allu â phosibl ar y safle hwnnw.

  • Gall y safleoedd hyn gymryd blynyddoedd i'w hadeiliadu a gall eu cymhlethdod arwain at oedi sylweddol a chostau cynyddol.

Sylfaen gref

Rydym wedi bod yn ddylunydd gweithfeydd adweithydd niwclear er dechrau rhaglen llongau tanddwr niwclear y DU. Rydym wedi darparu adweithyddion dŵr gwasgeddedig (PWR) niwclear bychan ar draws saith dosbarth o longau tanddwr, ac wedi bod yn gysylltiedig mewn dylunio nifer o orsafoedd pŵer niwclear sifil.

Pâr o ddwylo diogel

Rydym wedi gweithio ar ddatblygiad y rhaglen SMR ers y 1990au, a ni yw'r unig ddylunydd adweithyddion preifat yn y gorllewin sydd â phrofiad o weithfeydd adweithydd gweithredol. Yn y DU rydym wedi gweithredu'r adweithydd prawf ar y tir yn Dounreay (cyfleuster profi prototeip gweithfeydd niwclear ar gyfer adweithyddion llyngesol), a ni yw'r cyflogwr mwyaf ar gyfer peirianwyr niwclear.

Ateb gwirioneddol fodiwlar

Trydan carbon isel diogel, dibynadwy a fforddiadwy.

Mae rhaglen Adweithydd Modiwlar Bach (SMR) yn cynnig ateb gwirioneddol arloesol a fydd yn ailddiffinio dulliau o ddarparu pŵer carbon isel.

Caiff SMR eu gwneud mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu wedi'u lleoli yng nghanol y DU ac yna eu cludo i unrhyw le yn y wlad neu dramor, gan roi arbedion o ran maint a fydd yn lleihau costau. Rydym yn datblygu cysyniad modiwlar â phatent sydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer ei gynhyrchu a'i gomisiynu mewn ffatri, ar gyfer gwell cyflymder o ran y gosod a lleihad mewn gwaith adeiladu ar y safle.

Mae cyfleoedd ardderchog ar gyfer SMR ledled y byd. Yn ôl astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd gan y Labordy Niwclear Cenedlaethol, amcangyfrifir bod marchnad fyd-eang gwerth hyd at £400 biliwn ar gyfer ynni na ellir, ym mhob sefyllfa, gael ei fodloni gan adweithyddion niwclear mawr ac felly mae'n cynnig cyfle gwirioneddol ar gyfer SMR.

Ailddychmygu pŵer niwclear

Mae SMR yn cynnig ateb gwirioneddol arloesol ac effeithiol i anghenion pŵer byd-eang.

Mae eu dyluniad modiwlar, ynghyd â'r cyfle i gynhyrchu adweithyddion yn ganolog, yn golygu eu bod yn dod â nifer o fanteision i fyd pŵer carbon isel na all gorsafoedd pŵer niwclear traddodiadol eu cynnig.

Ateb hyblyg i alw byd-eang am bŵer

Gan adeiladu ar ein henw da byd-eang am dros hanner canrif yn y diwydiant niwclear, mae Rolls-Royce yn arwain consortiwm o gwmnïau yng nghydweithrediad peirianneg cenedlaethol mwyaf erioed yn y DU. Mae Consortiwm SMR Rolls-Royce yn dwyn ynghyd rai o'r sefydliadau peirianneg mwyaf uchel eu parch ac arloesol y byd. Mae gan Rolls-Royce, ARUP, Laing O’Rourke, Nuvia a Wood Group i gyd hanes llwyddiannus o gyflawni rhaglenni peirianneg a seilwaith cymhleth ar raddfa fawr.

Mae gan Rolls-Royce eisoes dros 35 o batentau ar gyfer elfennau o dechnoleg SMR ac mae ganddo ddegawdau o brofiad dylunio, gweithgynhyrchu, cyflenwi a gweithrediadau. Gan ddefnyddio'r dechnoleg hon sydd wedi'i phrofi eisoes a galluogrwydd niwclear, rydym yn datblygu cysyniad modiwlar ar gyfer technoleg niwclear y gellir ei osod a'i gomisiynu'n gyflym ar y safle oherwydd bydd wedi'i adeiladu a'i gomisiynu mewn ffatri. Bydd mabwysiadu ein model modiwlar yn lleihau cost a risg prosiect oherwydd ei fod yn gyflymach i'w adeiladu. Bydd yn ffordd newydd o gynhyrchu trydan a fydd ar gael i'r byd.

Gyda'r gweithfeydd cyntaf yn gallu bod yn barod i weithredu erbyn 2030, bydd y DU yn parhau ar flaen y gad mewn technoleg cynhyrchu pŵer.

To view English / Welsh version, please click here.